Swydd: Uwch-gynorthwyydd Lles ac Arweinydd Ystafell Keri ac Hafan Roger Boore
(Gradd 6: 39 wythnos / 35 awr)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac effeithol i swydd Arweinydd Ystafell Keri ac Hafan Roger Boore yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Dyma ddwy ystafell sydd yn darparu gofal a chynhaliaeth lles i ddisgyblion sydd ag anghenion ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r profiad a’r dealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i ymholiadau gwahanol yn ymdrin a gofal bugeiliol, diogelu a phresenoldeb. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rhyng-bersonol da iawn i allu delio gydag amrywiaeth o sefyllfaoedd, asiantaethau a phartneriaid allanol. Craidd y swydd yw arwain a rheoli tim o gymorthyddion i gynnal perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion. Byddwch yn gweithio’n agos a chydlynus gyda thim bugeiliol yr ysgol, gyda’r Tim Arwain, CADY, Tim Cynnydd a Lles ac Arweinwyr Adran i gefnogi darpariaeth gydlynus a holistig i ddisgyblion.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau gweinyddol ardderchog, a’r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol neu gymleth, yn aml gydag unigolion â theuluoedd sy’n delio ac argyfyngau a thrallod. Mae’r gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm estynedig yn allweddol i’r rôl gan weithio’n agos iawn gyda’r CADY ynghyd â staff eraill ar draws yr ysgol. Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli gweinyddiaeth effeithiol er mwyn sicrhau fod materion yn cael sylw mewn da bryd a bod blaenoriaethau yn derbyn sylw teilwng mewn cyfyngder amser penodol, ynghyd a chofnodi data yn fanwl gywir. Byddwch yn gyfrifol o ddydd i ddydd am arwain a rheoli tim estynedig o gymorthyddion a chydlynu’r ddarpariaeth i sicrhau bod cymorth parod ac effeithiol i grwpiau targed ac unigolion ym maes eang cynhaliaeth bugeiliol gan gynnwys ymyraethau gwelliant, fel ELSA, Thrive ac ati. Byddwch yn tracio ymddygiad, agweddau at ddysgu a chynnydd disgyblion yn glos gydag AC&Ll drwy gynnal systemau effeithiol i dracio cynnydd, ymddygiad ac arwain ymyraethau.
Byddwch yn delio a rhychwant eang iawn o rhanddeiliaid ar draws cymuned yr ysgol gan sicrhau cyfathrebu cywir, trefniadaeth effeithiol a llyfn. Craidd eich gwaith fydd arwain tim o staff i sicrhau dilyniant, gweithredu effeithiol, rhaeadru gwybodaeth ac i gysoni polisiau a strategaethau yn gydlynus ac effeithiol.
Byddwch yn frwd i arloesi o fewn maes ADY gan sicrhau gofal caredig, gynhwysol a chefnogol o ddisgyblion tra’n gadarn i’r egwyddor mae mewn ysgolion mae plant a phobl ifanc yn ffynnu.
Byddwch yn cynorthwyo i sicrhau gweithredu systemau cadarn yn unol a gofynion stadudol a chyfreithiol o fewn y ddeddf ADY. Byddwch hefyd yn gallu camu i rolau cynrychiolaeth yr ysgol mewn cyfarfodydd diogelu yn achlysurol.
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon ac am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Gweithredol, Mr Matthew Evans.
Dyddiad dechrau’r swydd 1 Medi 2026
Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.