Cynorthwyydd Gweinyddol Rhyngwladol

Ysgol
Gower College Swansea
Lleoliad
Swansea, Swansea
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
£23,404.00 - £23,903.00 Per Annum
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
16th Mai 2024 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1419444
Cyfeirnod y swydd
APR20247627
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: Until May 2025
  • ID swydd: 1419444

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

  • Llawn amser - 37 awr yr wythnos
  • Cyfnod penodol - tan fis Mai 2025 (Cyfnod Mamolaeth)
  • £23,404 - £23,903 y flwyddyn
  • Campws Gorseinon

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Darparu gofal bugeiliol i fyfyrwyr rhyngwladol ar draws holl safleoedd y Coleg
  • Cydlynu’r rhaglen gymdeithasol ryngwladol, sy’n cynnwys gwibdeithiau i safleoedd o ddiddordeb, yn lleol i Abertawe a ledled y DU
  • Darparu cymorth gweinyddol ariannol, gan gynnwys: prosesu anfonebau; sefydlu cyfrifon cwsmeriaid a chyflenwyr newydd ar system gyllid y coleg; taliadau/ad-daliadau ar gyfer darparwyr Homestay; prosesu treuliau staff; cadw cofnodion cywir o’r holl wariant arian parod; cofnodi gwybodaeth ariannol ar gyfer cynlluniau a ariennir yn allanol megis Erasmus+/Turing/ Taith LlC; cwblhau a chyflwyno ffurflenni cerdyn credyd misol

Amdanoch chi:

  • Addysg hyd at lefel gradd neu brofiad proffesiynol priodol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn rôl weinyddol neu rôl debyg
  • Profiad blaenorol o weithio i derfynau amser
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog
  • Hyddysg mewn TG, gallu defnyddio taenlenni a Word

Buddion:

  • 28/46 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
  • 2 ddiwrnod lles i staff
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

 

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Gower College Swansea yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.