Athro/awes
(+£1000 recriwtio a chadw am y flwyddyn gyntaf)
Ar gyfer Medi 2024
Contract parhaol
Y rôl - (Addysgu pwnc neu bynciau yn ôl arbenigedd yr unigolion o fewn cyfnodau allweddol 3 &4). Cynigir cytundeb llawn amser neu ran amser (o leiaf 0.6).
Ydych chi’n chwilio am her newydd? Ydych chi am gael cyfle i ddatblygu ymhellach fel addysgwr arloesol?
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar cyfnod cyffrous yn ei hanes. Agorodd yr ysgol i fod yn yr ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022. Rydym yn cyd-gynllunio fel tîm i weithredu cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys edrych o’r newydd ar ein darpariaeth cwricwlaidd , ein haddysgu a threfniadau asesu.
Gwahoddir ceisiadau gan addysgwr sector cynradd neu uwchradd cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal cynigir hyfforddiant gloywi iaith i addysgwr cynradd ac uwchradd y sector Saesneg os dymunant ymuno a theulu Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Rydym yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cyndweithio’n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Chwiliwn am athro ymroddgar sydd ar arbenigedd perthnasol i addysgu yng Ngham Cynnydd Pedwar a Chyfnod Allweddol 4. Bydd hyn yn cynnwys addysgu un neu fwy o bynciau o’ch arbenigedd chi. Chwiliwn hefyd am unigolyn sy’n gallu cynnig gweithgareddau cyfoethogi a phrofiadau allgyrsiol i’n dysgwyr.
Byddwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu eich hun yn broffesiynol wrth i’r ysgol ddatblygu trwy ddarparu cefnogwr addysgeg bersonol i’r ymgeisydd llwyddiannus. Mae cefnogwr addysgeg ag athrawon yn bartneriaid yn y broses o gynnal a gwella safonau dysgu ac addysgu yn barhaus.
Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol. Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn 12pm dydd Llun, 20fed o Fai
Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Helen Rogers, Pennaeth Gweithredol.
Datganiad Diogelu:
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.