Swydd: Athro
Graddfa Cyflog Athrawon
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i'r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Ysgol Gymraeg Gwynllyw am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol pob oed . Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn.
Y pynciau pendodol sydd yn flaenoriaeth yw:
Cymraeg
Saesneg
Dyniaethau
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a’r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu’r gweithlu ac arloesi.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i’n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu. Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.
Mae’r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Met Caerdydd byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:
• Cynllunio gwersi
• Asesu, marcio ac adborth
• Rheolaeth ddosbarth
• Datblygu dycnwch
• Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).
Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.
Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.
Proses ymgeisio:
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy ebost erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 12 Ebrill 2026.
Mae mwy o fanylion am y cyfle hwn ar Cynllun pontio cynradd i uwchradd cyfrwng Cymraeg - Hwb neu os hoffech drefnu ymweliad â’r ysgol neu sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Mrs Catherine Evans