A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.
Rydym yn awyddus i benodi athro neu athrawes arbenigol ADY er mwyn arwain ein darpariaeth ADY yn y cwtsh cynradd. Byddwch yn cydweithio’n agos gyda’r CADY, dirprwy CADY a’r pennaeth cynorthwyol sy’n gyfrifol am yr adran gynradd.
Mae hon yn gyfle arbennig i ymuno a grŵp o staff brwdfrydig, ymroddedig ac egnïol a gyda thîm ADY ardderchog sy’n gweithio’n galed i sicrhau’r ddarpariaeth orau i ddisgyblion yr ysgol.
Byddwch yn ymuno a’r adran gynradd yn ystod cyfnod cyffrous wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes. Edrychwn am athro/athrawes i arwain a chyfrannu i’r maes arbenigol hwn gyda egni, creadigrwydd ac empathi.
Mae’r ysgol yn frwd i’ch cefnogi i hyfforddi ymhellach ac i ymchwilio ac arloesi yn y maes er mwyn cryfhau darpariaeth a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes.
Edrychwn am unigolyn gweithgar a chadarnhaol i gamu i’r rôl allweddol hon o fewn cymuned yr ysgol.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda’r rhinweddau canlynol:
- Cefndir / profiad fel athro cynradd
- Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes ADY
- Dealltwriaeth dda o addysgu effeithiol i gefnogi disgyblion ADY
- Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion ADY i gyflawni eu potensial
- Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
- Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
- Y gallu i ddatblygu darpariaeth ADY o ansawdd uchel
- Y gallu i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion statudol y Côd ADY
- Y gallu i arwain hyfforddiant mewnol a datblygiad proffesiynol i staff cynradd, lle’n briodol
- Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
- Y gallu i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr a rhieni i gefnogi ein disgyblion
Fel ysgol, byddwn yn cynnig cyfleoedd eang i’r unigolyn llwyddiannus i ddatblygu yn broffesiynol. Yn ogystal wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes, bydd cyfleoedd amrywiol i staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ac ehangu eich cyfrifoldebau ymhellach.
Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn 3ydd o Fai.
Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Catherine Evans
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.