Athro cynradd
Contract Mamolaeth
A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.
Rydym yn awyddus i benodi athro / athrawes brwdrydig, egniol ac ymroddgar i weithio fel rhan o dîm cynradd yr ysgol. Disgwylir medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog er mwyn gallu cydweithio gyda phlant, athrawon a rhieni'r ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu cefnogi gweledigaeth gynhwysol a phlentyn-ganolog yr ysgol ac i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle. Credwn yn gryf bod profiadau bywyd go iawn yn rhan allweddol o daith addysg plentyn. Edrychwn am rywun a fydd yn barod i gyfrannu at ein darpariaeth allgyrsiol a chynnig profiadau amhrisiadwy, amrywiol a chyffrous i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Gofynnir i ymgeiswyr ymhelaethu ar eu gallu i gyfrannu at y meysydd a nodwyd yn eu llythyron cais.
Rydym yn chwilio am unigolyn gyda’r rhinweddau canlynol:
Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes cynradd
Dealltwriaeth gadarn o addysgu effeithiol
Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion a staff i gyflawni eu potensial
Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
Athro cymwysedig gyda gradd berthnasol
Y gallu i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr i godi safonau dysgwyr
Fel ysgol, byddwn yn cynnig cyfleoedd eang i’r unigolyn llwyddiannus i ddatblygu yn broffesiynol. Yn ogystal wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes, bydd cyfleoedd amrywiol i staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ac ehangu eich cyfrifoldebau ymhellach.
Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn dydd Llun 21ain o Fedi
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.