Ail Yn Yr Adran Saesneg

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TMS/UPS plus TLR2
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
18th Medi 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1572354
Cyfeirnod y swydd
REQ006547
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1572354

Ail yn yr adran Saesneg

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Yn dilyn penodiad yr arweinydd presennol i rôl Pennaeth Adran, rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig ac ysgogol i ymgymryd â’r rôl ail yn yr adran Saesneg. Mae hyn yn rôl allweddol ac yn gyfle ardderchog i athro/athrawes ddatblygu ei gyrfa yma yng Ngwynllyw

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym wedi cyflwyno cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.

Rydym yn awyddus i benodi ail yn yr adran Saesneg i gydweithio’n agos gyda’r pennaeth adran. 

Bydd y person llwyddiannus yn rhan o dîm ieithoedd a chyfathrebu’r ysgol ac yn cyfrannu at addysgu ar draws yr ystod oedran. Mae hwn yn gyfle arbennig i athro/awes sydd yn awyddus i ddatblygu fel arweinydd a chyfrannu’n llawn at fywyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a darparu dysgu ac addysgu effeithiol, monitro cynnydd disgyblion, yn ogystal â defnyddio ystod o strategaethau asesu i gefnogi dysgu a chynnydd. Disgwylir i’r athro neu’r athrawes arwain datblygiad proffesiynol parhaus a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol a chydweithio â chydweithwyr i wella dysgu a lles disgyblion. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus dirprwyo i’r pennaeth adran fel yr angen. 

Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:

● Brwdfrydedd ac angerdd dros y Saesneg

● Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y pwnc

● Dealltwriaeth dda o addysgu effeithiol

● Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion i gyflawni eu potensial

● Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog

● Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol

● Dealltwriaeth gadarn o dracio cynnydd effeithiol

● Dealltwriaeth gadarn o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt

● Y gallu i weithio fel rhan o dîm

Prif gyfrifoldebau

Dysgu ac addysgu

● Arwain y dysgu ac addysgu ar gyfer Bl 7 - Bl 9. 

● Rhannu arfer dda yn briodol.

● Cymryd cyfrifoldeb dros a chydlynu safonau Bl 7 - Bl 9. Cyd-lynu cynlluniau gwaith Bl 7 - Bl 9.

● Cyfrannu at gyfarfodydd lles ac ADY ar gyfer disgyblion Bl 7 - Bl 9.

● Cydweithio gyda’r pennaeth adran er mwyn cydlynu’r gwaith pontio, gan gynnwys arwain y sesiynau MATh fel rhan o’r cynllun pontio.

Asesu a monitro

● Cyfrannu at adroddiad hunanwerthuso’r adran drwy lunio arfaniad o safonau, dysgu ac addysgu ar gyfer Bl 7 - Bl 9.

● Cyfrannu at weithgareddau hunanwerthuso adrannol / MDaPh neu ysgol-gyfan lle’n briodol.

● Tracio safonau a monitro ansawdd llyfrau / gwaith.

● Arwain a chyd-lynu trefniadau safoni Bl 3 - Bl 9.

Dysgu proffesiynol

● Cydweithio gyda’r pennaeth adran er mwyn sicrhau bod ffocws priodol yn ystod cyfarfodydd adran ar ddysgu proffesiynol, dysgu ac addysgu.

Arweinyddiaeth

● Dirprwyo yn absenoldeb y pennaeth adran, gan gynnwys arwain cyfarfodydd adran lle’n briodol.

● Cyfrannu at lunio agenda cyfarfodydd ac arwain yr agweddau perthnasol yn ystod cyfarfodydd.

● Cymryd cyfrifoldeb am agweddau penodol o gynllun datblygu’r adran.

Eraill

● Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol sy’n gymesur â gradd y swydd nag sydd wedi nodi uchod yn ôl cyfarwyddyd Arweinydd yr adran.

● Datblygu cyfleoedd allgyrsiol yr adran.

Sut i Ymgeisio

Dyddiad cau: 18.9.26

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA