Swydd athro Addysg Gorfforol
Contract 1 flwyddyn
Ar gyfer Medi 2024
Cyflog: Graddfa gyflog athrawon
A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni baratoi i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a’r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu’r gweithlu ac arloesi.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda’n datblygiadau o fewn y maes dysgu a phrofiad drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd.
Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i’n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.
Prif gyfrifoldebau
• Ymgymryd â dyletswyddau Athro/Athrawes yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, a deddfwriaeth bresennol arall ym maes addysg.
● Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr ar draws y cyfnodau allweddol gwahanol a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon
● Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
● Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i’n dysgwyr
*Gall dyletswyddau amrywio yn ôl penderfyniad yr UDA neu newidiadau cwricwlaidd
Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:
● Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;
● Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;
● Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;
● Gallu gweithio fel rhan o dîm;
● Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;
Ystyrir ceisiadau oddi wrth athrawon profiadol neu athrawon sydd newydd gymhwyso am y swydd hon.
Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, llenwch ffurflen gais. Os ydych am sgwrs anffurfiol i drafod y weledigaeth a syniadau ar gyfer datblygu’r maes, cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Pennaeth, dros y ffôn neu trwy ebost.
Pennaeth – Helen Rogers
Rheolwraig Adnoddau dynol - Victoria Woodward
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.