Athro Gwyddoniaeth
£1,000 – tâl recriwtio am y flwyddyn gyntaf (ar gyfer ymgeisydd addas)
Ar gyfer Medi 2024
Contract parhaol
Y rôl – (Addysgu gwyddoniaeth yng nghyfnodau 3 & 4 ac o bosib CA5)
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar cyfnod cyffrous yn ei hanes. Wnaeth yr ysgol agor i fod yn yr ysgol bob oed (3-19) cyntaf Awdurdod Addysg Torfaen yn Medi 2022.
Gwahoddir ceisiadau gan addysgwr sector cynradd neu uwchradd cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal cynigir hyfforddiant gloywi iaith i addysgwr cynradd ac uwchradd y sector Saesneg os dymunant ymuno â theulu Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Rhan annatod o’n gweledigaeth yw rhoi dysgu ac addysgu, ynghyd â datblygiad proffesiynol ein staff fel prif ffocws. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Chwiliwn am athro ymroddgar sydd ag arbenigedd perthnasol i addysgu gwyddoniaeth yng nghyfnodau allweddol 3 & 4 ac o bosib yng nghyfnod allweddol 5.
Byddwn yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu eich hun yn broffesiynol wrth i’r ysgol ddatblygu trwy ddarparu cefnogwr addysgeg bersonol i’r ymgeisydd llwyddiannus. Mae cefnogwr addysgeg ac athrawon yn bartneriaid yn y broses o gynnal a gwella safonau dysgu ac addysgu yn barhaus.
Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae’r ysgol hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.
Mae hwn yn gyfle arbennig i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan gan fodloni blaenoriaeth genedlaethol.
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ysgol sy’n hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru ac mae’n ymfalchïo yn ei llwyddiant i fagu siaradwyr Cymraeg rhugl. Felly, bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus, ynghyd â holl staff yr ysgol, rannu a hyrwyddo’r weledigaeth hon.
Os oes diddordeb gennych mewn ymuno ar ein taith datblygu, cwblhewch y ffurflen gais a’i ddychwelyd trwy eteach / wefan Torfaen
Dyddiad cau: 12yp 17eg o Fai 2024
Dyddiad cychwyn: Medi 2024
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.