Athro/Athrawes Arbenigol ADY ar gyfer Cwtsh Gwladys

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog Athrawon (GCA) + ADY1 £2,838
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
3rd Mai 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1545720
Cyfeirnod y swydd
REQ006215
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1545720

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.

Rydym yn awyddus i benodi athro neu athrawes arbenigol ADY er mwyn arwain ein darpariaeth ADY yn y cwtsh cynradd. Byddwch yn cydweithio’n agos gyda’r CADY, dirprwy CADY a’r pennaeth cynorthwyol sy’n gyfrifol am yr adran gynradd.

Mae hon yn gyfle arbennig i ymuno a grŵp o staff brwdfrydig, ymroddedig ac egnïol a gyda thîm ADY ardderchog sy’n gweithio’n galed i sicrhau’r ddarpariaeth orau i ddisgyblion yr ysgol.

Byddwch yn ymuno a’r adran gynradd yn ystod cyfnod cyffrous wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes. Edrychwn am athro/athrawes i arwain a chyfrannu i’r maes arbenigol hwn gyda egni, creadigrwydd ac empathi.

Mae’r ysgol yn frwd i’ch cefnogi i hyfforddi ymhellach ac i ymchwilio ac arloesi yn y maes er mwyn cryfhau darpariaeth a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes.

Edrychwn am unigolyn gweithgar a chadarnhaol i gamu i’r rôl allweddol hon o fewn cymuned yr ysgol.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda’r rhinweddau canlynol:

  • Cefndir / profiad fel athro cynradd
  • Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes ADY
  • Dealltwriaeth dda o addysgu effeithiol i gefnogi disgyblion ADY
  • Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion ADY i gyflawni eu potensial
  • Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
  • Y gallu i ddatblygu darpariaeth ADY o ansawdd uchel
  • Y gallu i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion statudol y Côd ADY
  • Y gallu i arwain hyfforddiant mewnol a datblygiad proffesiynol i staff cynradd, lle’n briodol
  • Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
  • Y gallu i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr a rhieni i gefnogi ein disgyblion

Fel ysgol, byddwn yn cynnig cyfleoedd eang i’r unigolyn llwyddiannus i ddatblygu yn broffesiynol. Yn ogystal wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes, bydd cyfleoedd amrywiol i staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ac ehangu eich cyfrifoldebau ymhellach.

Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn 3ydd o Fai.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Catherine Evans


Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad. 

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA