Athro/Athrawes Dylunio a Thechnoleg

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
MPS / UPS
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
31st Mai 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1553782
Cyfeirnod y swydd
REQ006321
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: Cyfnod penodol, tan 31/08/2027
  • ID swydd: 1553782

Swydd Dylunio a Thechnoleg

Rôl

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.

Rydym yn awyddus i benodi athro / athrawes dylunio a thechnoleg effeithiol ac ymrwymedig i gyfrannu at ddatblygiad y maes hwn yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Bydd y person llwyddiannus yn rhan o dîm maes iechyd a lles ac yn cyfrannu at addysgu merched yn bennaf ar draws yr ystod oedran.

Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a darparu gwersi effeithiol, monitro cynnydd disgyblion, a defnyddio ystod o strategaethau asesu i gefnogi dysgu a chynnydd. Disgwylir i’r athro / awes gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus ac at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol a chydweithio â chydweithwyr i wella dysgu a lles disgyblion.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda’r rhinweddau canlynol:

  • Athro / athrawes cymwysedig gyda gradd berthnasol
  • Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes
  • Dealltwriaeth dda o addysgu effeithiol, gan gynnwys materion iechyd a diogelwch perthnasol
  • Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion i gyflawni eu potensial
  • Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
  • Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
  • Y gallu i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr i godi safonau dysgwyr

Fel ysgol, byddwn yn cynnig cyfleoedd eang i’r unigolyn llwyddiannus i ddatblygu yn broffesiynol. Yn ogystal wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes, bydd cyfleoedd amrywiol i staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ac ehangu eich cyfrifoldebau ymhellach.

Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn dydd Iau 21ain o Fai

Cyfweliadau 27ain / 28ain o Fai

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Catherine Evans, Pennaeth.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA