Athro/Athrawes Technoleg Gwybodaeth

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Cyflog Athrawon ac R&R o £1000 am 1 flwydd
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
Yn dod i ben
23rd Mai 2024 12:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1423680
Yn addas ar gyfer
ECT (NQT) Graduates
Cyfeirnod y swydd
REQ004640-2305
Dyddiad cychwyn
1st September 2024
  • Math o Gontract:Parhaol
  • Yn addas ar gyfer: ECT (NQT) Graduates
  • ID swydd: 1423680

Athro Maes Dysgu & Phrofiad Gwyddtech (Arbenigedd Technoleg Gwybodaeth)

Swydd cytundeb parhaol

Graddfa Cyflog Athrawon ac R&R o £1000 am 1 flwyddyn i’r ymgeisydd addas

I gychwyn Medi 2024.

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni baratoi i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.

Ni yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a’r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.

Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu’r gweithlu ac arloesi.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn parhau gyda’n datblygiadau o fewn y maes dysgu a phrofiad drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau addas (yn ôl arbenigedd yr unigolyn) yn CA4 a CA5.

Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i’n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.

Prif gyfrifoldebau

• Cydweithio, datblygu a gweithredu strategaethau ysgol gyfan ar gyfer TGCH

• Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn yr adran ar draws y cyfnodau allweddol gwahanol a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon

• Ymchwilio a chydweithio wrth ddatblygu cwricwlwm newydd Cwricwlwm i Gymru ac unrhyw newidiadau pellach i TGAU / UG / Uwch

• Cyfrannu at waith datblygu sgiliau ar draws yr adran, e.e. Cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd

• Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i’n dysgwyr

*Gall dyletswyddau amrywio yn ôl penderfyniad yr UDA neu newidiadau cwricwlaidd

Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:

• Meddu ar ddealltwriaeth o dracio cynnydd dysgwyr;

• Dealltwriaeth o safonau rhagorol o fewn y pwnc a thu hwnt;

• Meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn yn y Gymraeg a’r Saesneg;

• Gallu gweithio fel rhan o dîm;

• Meddu ar sgiliau TGCh da iawn;

Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, lawrlwythwch y ffurflen gais oddi ar wefan Torfaen. Os ydych am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Pennaeth.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 20.05.2024 am 12yp

This is an advertisement for the post of IT teacher in a Welsh Medium School. The ability to communicate fluently in Welsh is essential.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA