Swydd Barhaol
Gradd 6 - £31,537- £34.343 (pro-rata)
Amser tymor yn unig (39 wythnos)
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni i weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.
Ni yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a’r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag Ysgol Gymraeg Gwynllyw wrth i ni ddatblygu fel ysgol gydol oes. Ym Medi 2022, agorwyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw, wrth i’n hadran gynradd groesawu ei disgyblion cyntaf.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae’r ysgol hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.
Gwahoddir ceisiadau gan addysgwr sector cynradd cyfrwng Cymraeg. Yn ogystal cynigir hyfforddiant gloywi iaith i addysgwr cynradd ac uwchradd y sector Saesneg os dymunant ymuno a theulu Ysgol Gymraeg Gwynllyw.
Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn cydweithio’n dda i ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr. Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos. Byddwn yn cynnig cyfleoedd ardderchog i’r ymgeisydd llwyddiannus barhau i ddatblygu’n broffesiynol o fewn cymuned gefnogol.
Rydym yn edrych i benodi:
- ymarferydd dosbarth cymwysedig eithriadol gydag angerdd am ddatblygu dysgu plant, gyda'r gallu a'r arbenigedd i gyflenwi amser CPA a rhyddhau arweinwyr tîm pan fo angen gan gynnwys cyflenwi dros dro yn y tymor byr, yn ogystal ag arwain ymyraethau i gefnogi ein plant ymhellach.
Rydym yn chwilio am CALU deinamig, gyda disgwyliadau uchel a dealltwriaeth o godi cyrhaeddiad ac yn unigolyn creadigol, cadarnhaol a fydd yn cydweithio fel aelod o dîm sy'n gosod esiampl dda o ran gwisg, prydlondeb a phresenoldeb ac yn modelu gwerthoedd ein hysgol yn effeithiol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Gweithio ochr yn ochr â’r athrawon dosbarth wrth gynllunio a gweithredu gwersi.
- Cyflwyno cynnwys y wers yn unol â chyfarwyddiadau a chynllun yr athro dosbarth, gan deilwra i ddiwallu anghenion y plant, os oes angen.
- Bod yn rhan o asesu, cofnodi ac adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad y plant.
- Asesu gwaith yn unol â chyfarwyddyd yr athro dosbarth yn unol â pholisi adborth yr ysgol.
Gallwn gynnig cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus:
- Gweithio gyda phlant ag ymddygiad rhagorol, sy'n llawn cymhelliant ac yn awyddus i ddysgu.
- Gweithio o fewn tîm cefnogol, cyfeillgar.
- Datblygu eu datblygiad proffesiynol trwy ystod o gyfleoedd hyfforddi.
- Gweithio mewn ysgol sy'n hybu lles staff.
- Gweithio gyda theuluoedd a llywodraethwyr sy'n gwerthfawrogi ac yn cefnogi gwaith yr ysgol.
Mawr obeithiwn y byddwch yn gwneud cais i ymuno â ni wrth i ni ddatblygu a gwella gyda golwg clir ar y dyfodol.
Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais erbyn dydd Sul 15fed o Fawrth 2026.
Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Cath Evans, Pennaeth.
Mae'r swydd hon yn amodol ar wiriad DBS manylach. Mae’r ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Gofal Plant (Anghymhwyso) 2009, drwy sicrhau nad yw staff yn cael eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Trefnir cyfweliadau wrth i geisiadau ddod i law. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno eu ffurflenni cais cyn gynted â phosibl. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r hysbyseb hon yn ôl cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi ymgeisydd addas.
Rydyn ni wedi cofrestru fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.