Derbynydd
Parhoal
Gradd 4 - £23,898 - £25,545 pro-rata
39 wythnos (tymor yn unig)
16-35 awr yr wythnos (i'w drafod gyda'r ymgeisydd llwyddiannus)
Mae’r ysgol yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig ac egnïol i swydd Derbynnydd o fewn i gymuned yr ysgol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r profiad a’r dealltwriaeth i ymateb yn hyblyg i sefyllfaoedd ac ymholiadau gwahanol. Mae’r swydd yn gofyn am sgiliau rhyng-bersonol ardderchog i allu delio gyda amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys, disgyblion, staff, rhieni, asiantaethau a phartneriaid allanol, y cyhoedd a’r gymuned ehangach.
Dyma gyfle arbennig i ymuno ag ysgol sydd ar drothwy cyfnod cyffrous yn ei hanes; bydd yr ysgol yn agor i fod yn ysgol bob oed ym Medi 2022. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.
Agorodd Ysgol Gyfun Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988 ac ers y cyfnod hynny, braf yw gweld addysg Gymraeg yn ffynnu yn yr ardal hon. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Mae’r ysgol hefyd yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd a chynigir amryw o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fel rhan o hyn.
Fel Derbynnydd, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf o fewn yr ysgol. Un o brif ddyletswyddau’r rôl fydd darparu cefnogaeth weinyddol ar draws yr Ysgol gyfan. Yn ogystal â hynny, fe fyddwch chi’n croesawu pob ymwelydd i’r ysgol a’r rhai sy’n ymweld â’r safle. Hefyd, bydd gennych gyfrifoldeb dros gydlynu gweithgareddau a gwasanaethau’r ddesg flaen, gan gynnwys dosbarthu gohebiaeth a throsglwyddo galwadau ffôn i’r bobl briodol. Byddai profiad blaenorol o fantais, ond nid yw’n hanfodol. Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg hefyd yn hanfodol.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ddelio yn sensitif a chyfrinachol mewn sefyllfaoedd personol a chymleth gan gynnwys unigolion sy’n wynebu trafferthion neu anhawsterau. Mae’r gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm estynedig yn allweddol i’r rôl gan weithio’n agos gyda staff gweinyddol eraill, y tîm arwain a thîm cynnydd yr ysgol ynghyd â gwasanaethau cefnogi a chynnal allanol.
Bydd angen sgiliau trefnu a rheoli gweinyddiaeth effeithiol er mwyn sicrhau fod materion yn cael sylw mewn da bryd a fod blaenoriaethau yn derbyn sylw teilwng mewn cyfyngder amser penodol. Disgwylir i’r unigolyn gymryd cyfrifoldeb llawn dros ddelwedd a diwyg y dderbynfa a mannau croeso’r ysgol gan sicrhau fod derbyniad cyfeillgar cynnes i ymwelwyr a bod y dderbynfa yn lân, broffesiynol a deniadol.
Prif cyfrifoldebau y swydd yn cynnwys -
• Ateb galwadau, ymholiadau gan rieni a'r cyhoedd
• Didoli a dosbarthu post mewnol
• Trefnu a phostio llythyrau allanol at rieni
• Cynorthwyo disgyblion ag ymholiadau
• Diweddaru calendr yr ysgol, safleoedd gwe a chyfryngau cymdeithasol yn ôl yr angen
• Ymgymryd â theipio, prosesu geiriau a thasgau gweinyddol eraill
• Argraffu a choladu adroddiadau disgyblion
• Argraffu, printio, sganio & ffeilio dogfennau
• Darparu cymorth cyntaf sylfaenol i staff a ddisgyblion
Os oes gennych chi'r rhinweddau i wneud cyfraniad blaengar i'r ysgol edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais. BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO’N FANWL GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS (DBS)
(The Welsh language is essential for this role)
Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.