NEW

Dirprwy Arweinydd Iechyd a Lles

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
MPS / UPS + TLR 2 (£3,590)
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
12th Ebrill 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1542848
Cyfeirnod y swydd
REQ006179
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1542848

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu. Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.

Rydym yn awyddus i benodi dirprwy arweinydd iechyd a lles, gydag arbenigedd mewn bwyd a maeth neu addysg gorfforol i gydweithio’n agos gyda phennaeth iechyd a lles yr ysgol.

Bydd y person llwyddiannus yn rhan o dîm maes iechyd a lles yr ysgol ac yn cyfrannu at addysgu ar draws yr ystod oedran. Mae hwn yn gyfle arbennig i athro/awes sydd yn awyddus i ddatblygu fel arweinydd a chyfrannu’n llawn at fywyd Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Bydd y rôl yn cynnwys cynllunio a darparu dysgu ac addysgu effeithiol, monitro cynnydd disgyblion, yn ogystal â defnyddio ystod o strategaethau asesu i gefnogi dysgu a chynnydd. Disgwylir i’r athro neu’r athrawes arwain datblygiad proffesiynol parhaus a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol a chydweithio â chydweithwyr i wella dysgu a lles disgyblion. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus dirprwyo i’r pennaeth maes fel yr angen.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda’r rhinweddau canlynol:

  • Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes
  • Dealltwriaeth gadarn o addysgu effeithiol
  • Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion a staff i gyflawni eu potensial
  • Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
  • Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
  • Athro cymwysedig gyda gradd berthnasol
  • Y gallu i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr i godi safonau dysgwyr

Fel ysgol, byddwn yn cynnig cyfleoedd eang i’r unigolyn llwyddiannus i ddatblygu yn broffesiynol. Yn ogystal wrth i’r ysgol ddatblygu fel ysgol gydol oes, bydd cyfleoedd amrywiol i staff ddatblygu eu medrau arweinyddiaeth ac ehangu eich cyfrifoldebau ymhellach.

Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn 12.04.26.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Catherine Evans, Pennaeth neu Rhiannon Maguire, Arweinydd maes iechyd a lles.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA