NEW

Pennaeth Cynorthwyol Cynradd

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
L5-L9
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
3rd Mai 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1546088
Cyfeirnod y swydd
REQ006224
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1546088

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn falch o gyhoeddi cyfle cyffrous i ymuno â thîm arweinyddiaeth uchelgeisiol ac egnïol yr ysgol fel pennaeth cynorthwyol. Daw’r swydd hon ar adeg allweddol yn natblygiad yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol bob oed sydd yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu.

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol sy'n gallu cefnogi gweledigaeth gynhwysol a phlentyn-ganolog yr ysgol ac i adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle. Credwn yn gryf bod profiadau bywyd go iawn yn rhan allweddol o daith addysg plentyn. Edrychwn am arweinydd a fydd yn barod i gyfrannu at ein darpariaeth allgyrsiol a chynnig profiadau amhrisiadwy, amrywiol a chyffrous i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Dyma gyfle ardderchog i arweinydd profiadol yn y sector cynradd i ddatblygu ymhellach. Byddwch yn gweithio mewn ysgol gydol oes gyfeillgar a chefnogol sydd yn hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol.

Fel ysgol, mae hybu lefelau uchel o les staff yn flaenoriaeth bwysig i ni. Eleni, rydym yn peilota cynllun ‘amser aur’ i staff yr ysgol, er mwyn cynnig cyfnod i staff weithio oddi ar safle’r ysgol unwaith pob tair wythnos.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddatblygu ein staff, gyda diwylliant cryf o welliant parhaus. Byddwch yn ymuno â thîm ymroddedig, gweithgar a blaengar. Fel ysgol, byddwn yn cynnig cyfleoedd eang i’r unigolyn llwyddiannus i barhau i ddatblygu yn broffesiynol.

Er bod y cyfrifoldebau’n bennaf yn ymwneud â’r sector cynradd, bydd cyfle i’r arweinydd newydd ymgymryd â chyfrifoldebau ysgol gyfan, gan gyfrannu at gyfeiriad strategol ysgol bob oed sydd â gweledigaeth glir ac uchelgeisiol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:

  • Yn ymarferydd cynradd ardderchog gyda dealltwriaeth gadarn o dysgu ac addysgu effeithiol.
  • Yn arweinydd ysbrydoledig, galluog ac egnïol.
  • Gyda’r gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion a staff i gyflawni eu potensial.
  • Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol ac ymrwymiad i gynllunio strategol.
  • Yn gallu gweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr i hyrwyddo lefelau uchel o les a chyflawniad ymysg disgyblion.
  • Yn darparu arweinyddiaeth gadarn sy’n meithrin diwylliant o uchelgais ac ansawdd.
  • Yn rhannu gwerthoedd craidd yr ysgol: Cymreictod, Cyfranogiad, Cwrteisi, Cynaliadwydd a Chyflawniad.

Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais a’i ddychwelyd atom erbyn 3ydd o Fai.

Os ydych am drafod y swydd ymhellach, neu drefnu ymweliad i’r ysgol cyn gwneud cais, cysylltwch â’r ysgol i siarad â Catherine Evans, Pennaeth


Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA