Swydd Arweinydd Dylunio a Thechnoleg

Cyflogwr
Ysgol Gymraeg Gwynllyw
Lleoliad
Torfaen, Torfaen
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
Graddfa Gyflog Gradd 1 - 8
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
29th Tachwedd 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1582531
Cyfeirnod y swydd
REQ006678
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1582531

Contract Parhaol

Ar gyfer Medi 2027

Cyflog: Graddfa gyflog athrawon + TLR 2

Dyddiad cau: 29ain o Dachwedd

A hoffech chi weithio mewn ysgol gyfeillgar a chefnogol sy’n hyrwyddo arloesedd i’r dyfodol?

Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn hyrwyddo ethos o un tîm, un teulu wrth i ni weithredu cwricwlwm i Gymru, tyfu fel ysgol 3-19 ac arloesi gyda systemau newydd i gefnogi hunanwerthuso a gwelliant, datblygiad medrau a safonau dysgwyr.

Ni yw’r unig ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 yn y rhanbarth a’r unig ysgol 3-19 yn sir Torfaen.

Agorodd Gwynllyw fel ysgol gyfun Gymraeg gyntaf hen sir Gwent yn 1988. Lleolir yr ysgol ar gyrion tref hanesyddol Pont-y-pŵl, ac yn gyfleus iawn i’r trefi mawrion, Caerdydd (tua hanner awr), Casnewydd (tua chwarter awr), yn ganolog iawn i draffyrdd yr M4 a’r M5 a phriffordd Pennau’r Cymoedd sy’n arwain at Ferthyr, Y Fenni a Henffordd. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Cymraeg eraill wrth ddatblygu ein cwricwlwm newydd ac rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau hawl ddysgu proffesiynol, datblygu’r gweithlu ac arloesi.

Mae gennym dîm brwdfrydig o staff yma yng Ngwynllyw, sydd yn ymroi i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad dysgwyr.

Chwiliwn am athro ymroddgar ac egnïol er mwyn arwain Dylunio & Thechnoleg a chyfrannu tuag at y datblygiadau o fewn y maes dysgu a phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg drwy addysgu ar draws yr ystod oedran uwchradd, gan gynnwys cyflwyno cyrsiau addas (yn ôl arbenigedd a diddordebau’r unigolyn) yn CA4 a CA5.

Wrth i ni dyfu fel ysgol bob oed rydym yn croesawu datblygiadau arloesol i’n strwythurau ysgol gyfan wrth i ni edrych tua’r dyfodol. Yn sgil hyn, cynigir ystod o gyfleodd i ddatblygu gyrfa a chymryd rhan flaenllaw yn natblygiad yr ysgol gyfan wrth i ni barhau ar ein taith datblygu.

O ran y swydd, bydd y prif gyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Arwain datblygiad yr adran o fewn yr ysgol
  • Hyrwyddo dysgu ac addysgu effeithiol a chefnogi staff o fewn yr adran
  • Arwain datblygiadau cwricwlaidd o fewn yr adran
  • Paratoi ac addysgu gwersi yn y maes dylunio technoleg i ddysgwyr 11-18 oed
  • Monitro, tracio a gwerthuso cynnydd dysgwyr o fewn y dosbarthiadau a addysgir a chynllunio ymyraethau perthnasol i ymateb i unrhyw bryderon dan oruchwyliaeth yr arweinydd y maes dysgu a phrofiad
  • Gweithio gydag arweinwyr eraill o fewn y maes i ddatblygu’r maes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg a phlethu’r agweddau i hyn i fodloni’r hyn sy’n bwysig yn y maes a gweledigaeth gyffredinol yr ysgol
  • Cyfrannu at waith datblygu medrau o fewn y maes pwnc, e.e. cymhwysedd digidol, datrys problemau, llythrennedd, rhifedd a chreadigrwydd
  • Ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd allgyrsiol i’n dysgwyr 

Disgwylir i berson sy’n ymgeisio ar gyfer y swydd fodloni’r gofynion isod:

  • Athro / athrawes cymwysedig gyda gradd berthnasol 
  • Brwdfrydedd ac angerdd dros addysgu a dysgu
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau diweddar o fewn y maes
  • Dealltwriaeth dda o addysgu effeithiol, gan gynnwys materion iechyd a diogelwch perthnasol
  • Y gallu i ysbrydoli a chymell disgyblion i gyflawni eu potensial
  • Medrau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog
  • Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn effeithiol
  • Ymrwymiad i gyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol
  • Y gallu i weithio’n effeithiol gyda chydweithwyr i godi safonau dysgwyr

Os hoffech ymuno â ni yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, cwblhewch y ffurflen gais. Os ydych am sgwrs anffurfiol i drafod y weledigaeth a syniadau ar gyfer datblygu’r maes, cysylltwch â’r ysgol i siarad â’r Pennaeth, Catherine Evans dros y ffôn neu trwy ebost.

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi’n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy’n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Ysgol Gyfun Gwynllyw is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.
Part of Torfaen LA

Torfaen LA