Yn ofynnol o Medi 2021
27.5 awr yr wythnos – Tymor Ysgol
Dros dro am hyd at 31ain Awst 2022
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Litchard yn dymuno penodi Swyddog Cymorth Dysgu brwdfrydig, cydwybodol a gofalgar i weithio mewn tîm addysgu cyfeillgar a llawn cymhelliant.
Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ar draws yr ystod oedran cynradd er mwyn darparu profiadau dysgu awyr agored. Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar ddealltwriaeth dda o'r cwricwlwm, ymddygiad a lles newydd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Iau, 20fed Fai 2021.
Dyddiad Rhestr Fer: Dydd Gwener, 28ain Fai 2021.
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Gwener, 11ef Fai 2021.
Mae Litchard Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.