Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig (Dros Dro)
Disgrifiad swydd
27.5 awr yr wythnos
Yn ystod tymor yr ysgol yn unig
Dros dro hyd at 31 Awst 2026
Mae angen person brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymroddedig i gynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol fel Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig.
Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hyblyg o ran oriau er mwyn diwallu anghenion disgyblion yr ysgol, a gallai hyn gynnwys oriau ychwanegol yn y bore a'r prynhawn.
Byddai nifer yr oriau yn gysylltiedig yn uniongyrchol â chynorthwyo plant a gallai newid.
Byddai rhywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn fanteisiol.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 07 Ioanwr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Ionawr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Ionawr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Litchard Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.