Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig ac egnïol i ymuno â thîm o staff ymroddgar i ddysgu iechyd a Gofal yn yr ysgol lwyddiannus hon. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu o flynyddoedd 10-13, gan ysgogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ac i ennyn balchder yn y pwnc .
Hefyd, croesawir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn dymuno gweithio rhan amser os dymunir.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mr Andrew Payne, Pennaeth cynorthwyol
Mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed ac yn disgwyl holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae asesiad risg trwyadl yn dangos bod ymchwilio i gofnod troseddol yn berthnasol i’r swyddi uchod. Felly, bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeiswyr cyn cynnig y swydd.
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Maes Y Gwendraeth yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.