ATHRO/ATHRAWES SAESNEG
Dyddiad Cychwyn: Medi’r 1af 2024
Cytundeb parhaol.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) yn ôl profiad a chymwysterau.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig ac egnïol i ymuno â thîm o staff ymroddgar i ddysgu Saesneg yn yr ysgol lwyddiannus hon. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu ar draws CA3 a 4, gan ysgogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ac i ennyn balchder yn yr iaith . O bosib bydd cyfle hefyd i’r ymgeisydd llwyddiannus addysgu Saesneg Safon Uwch i fyfyrwyr y Chweched yn ôl ein harbenigedd.
Am fanylion pellach cysylltwch â Mr Philip Pugh , Pennaeth yr Adran Saesneg
Datganiad Diogelu:
Mae Ysgol Maes Y Gwendraeth yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.