Cynorthwyydd Goruchwylio Llanw - Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig
Disgrifiad swydd
Yn ôl yr angen
Mae Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig yn awyddus i benodi Goruchwyliwr Amser Cinio Llanw i weithio yn ystod amser cinio, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Efallai y gelwir ar staff llanw i weithio ar fyr rybudd i gyflenwi absenoldeb aelodau eraill o staff yr ysgol yn amodol ar eu hargaeledd eu hunain, yn ystod amser cinio, rhwng 12pm - 1pm yn ôl y galw.
Gan weithio fel rhan o dîm, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus oruchwylio'r plant ym mhob un o ardaloedd yr ysgol, yn ogystal â goruchwylio disgyblion mewn gemau ar y maes chwarae a'u cynnwys ynddynt.
Byddai profiad o weithio gyda phlant, a'r gallu i annog ymddygiad da a chwarae ymhlith disgyblion yn fantais, ond nid yw'n hanfodol oherwydd darperir hyfforddiant.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i bob gweithiwr cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 24 Gorffennaf 2025
Dyddiad Llunio Rhestr Fer: 25 Gorffennaf 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 02 Medi 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mynydd Cynffig Primary School is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.