Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn chwilio am athro/athrawes Cynradd talentog, brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swydd yma.
Mae’r ysgol yn mynd trwy gyfnod hynod gyffrous yn ei hanes gyda gwaith adeiladu ysgol newydd fodern a chynhwysol wedi dechrau ar ein safle. O ganlyniad, rydym yn chwilio am athro/athrawes ysbrydoledig a brwdfrydig a fydd yn barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol i ymuno â’n tîm wrth inni baratoi ar gyfer y bennod newydd hon yn natblygiad yr ysgol.
Cytundeb blwyddyn yw’r swydd a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau o’r 1af o Fedi 2026.
Safeguarding Statement:
YGG Rhos-Afan is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.