Yn sgil agor ysgol newydd Gymraeg yn ardal Mynachlog-nedd yn 2023, hoffai'r Corff Llywodraethol benodi athro/athrawes frwdfrydig, ymroddedig ac ysbrydolgar ar gyfer yr ysgol hon. Mi fydd hon yn swydd blwyddyn a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau o’r 1af o Fedi 2026.
Rydym yn chwilio am unigolyn:
• sy'n ymarferydd ystafell ddosbarth ardderchog sy’n barod i ymuno a thim brwdfrydig wrth sefydlu ysgol newydd.
• sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da yn Gymraeg a'r Saesneg.
• sydd am gynnal ethos yr ysgol, sydd â’i wreiddiau yn yr iaith Gymraeg a’n diwylliant Cymreig.
• sy'n gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm o staff, rhieni, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol.
• dylid nodi diddordebau a chymwysterau penodol cwricwlaidd ar y ffurflen gais.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Cyflog: Prif Raddfa Gyflog Athrawon
Gellir cael gwybodaeth bellach drwy gysylltu â Mrs Lianne Vaughan, y pennaeth.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 12:00 canol dydd, Dydd Mercher, 22ain o Ebrill, 2026 .
Safeguarding Statement:
YGG Tregeles is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.