Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Blaendulais yn dymuno penodi Athro/Athrawes ardderchog ac ymrwymedig iawn i ymuno â’n tîm medrus o staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig ynghylch gweithio gyda phlant, yn gallu cefnogi strategaethau sy’n anelu at hyrwyddo canlyniadau dysgwyr, ac yn gyfathrebwr ac aelod tîm da. Mae’n bwysig eich bod yn ddibynadwy, yn gallu cymryd cyfrifoldeb ac yn meddu ar y gallu i weithio’n gydweithredol.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gellir cael gwybodaeth bellach drwy gysylltu â Mrs Kathryn Penhale, y pennaeth.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 12:00 canol dydd, Dydd Llun, 11eg o Fai, 2026.
Mae angen y Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Datganiad Diogelu:
YGG Blaendulais is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.