(22 awr yr wythnos (4 diwrnod llawn) - Cyfnod Mamolaeth)
Dyddiad Dechrau - Medi 1af 2026
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod, i addysgu dosbarth o blant blwyddyn 1 a 2 yn yr ysgol lwyddiannus hon. Gofynnwn i ymgeiswyr ein hysbysu am fedrau cwricwlaidd a diddordebau ar y ffurflen gais. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â’r gallu i ganu’r piano.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Cyflog: Prif Raddfa Gyflog Athrawon
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mr Rhys Griffiths, Pennaeth.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw, 27 o Fai am 12 o’r gloch
Datganiad Diogelu:
YGG Gwaun-Cae-Gurwen is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.