Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig, dibynadwy a chreadigol i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon am flwyddyn i gychwyn gyda phosibilrwydd i fod yn barhaol wedi hynny. (yn ddibynnol ar gyllid ysgol)
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda staff ac arweinwyr profiadol trwy hyrwyddo dysgu ac addysgu rhagorol sydd yn bodoli eisoes yn yr ysgol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn:
*Athro/awes â phrofiad dysgu cynradd.
*Ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol, disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad sy'n ymroddedig i ddatblygu lles emosiynol a chorfforol y dysgwyr.
*Ymrwymedig i ddatblygu dysgu plant er mwyn gwella safonau i roi'r cyfleoedd gorau mewn bywyd i'n plant.
*Sicrhau bod y Gymraeg / Cymreictod yn rhan flaenllaw o fywyd yr ysgol.
*Medru cyfathrebu’n wych sy'n gallu ysbrydoli, ennyn brwdfrydedd ac ysgogi eraill.
*Meddu ar sgiliau trawsgwricwlaidd effeithiol iawn.
Dylid nodi diddordebau a chymwysterau penodol cwricwlaidd ar y ffurflen gais.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mrs Christine Evans, Pennaeth.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw DYDD GWENER, 9fed o Fai, 2025 am hanner dydd.
Safeguarding Statement:
YGG Cwm Nedd is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.