(12.5 awr (bob prynhawn 12:50 – 15:20) – Dros Dro tan Awst 2026)~
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod, i addysgu dosbarth o blant Meithrin a Derbyn yn yr ysgol lwyddiannus hon. Rydym yn edrych am arbenigedd yn y cyfnod sylfaen, a dylid nodi diddordebau a chymwysterau penodol cwricwlaidd ar y ffurflen gais.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Cyflog: Prif Raddfa Gyflog Athrawon
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mrs Rhian Evans, Pennaeth.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw DYDD MERCHER 26ain o Dachwedd am 12 o’r gloch.
Safeguarding Statement:
YGGD Trebannws is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.