2x CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

NEW

2x CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Cyflogwr
YGG Pontardawe
Lleoliad
Abertawe, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
Yn dod i ben
2nd Mehefin 2025 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1481886
Cyfeirnod y swydd
POSN1018350/POSN1018366
Dyddiad cychwyn
1st September 2025
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1481886

(2 x swydd) dros dro - 30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn).

Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.

Mae ysgol Gymraeg Pontardawe yn gymuned hapus a chyfeillgar gydag ethos gofalgar a chefnogol.

Mae’r swydd yma am 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Pontardawe for which the ability to speak Welsh is essential.

Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mr Martin Evans, Pennaeth.

Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw DYDD LLUN, MEHEFIN 2ail 2025.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Pontardawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
YGG Pontardawe

YGG Pontardawe

Part of Neath Port Talbot LA

Neath Port Talbot LA