BWLETIN SWYDDI ADDYSGU
YSGOL GYNRADD GYMRAEG CASTELL-NEDD
Heol Woodland, Castell-nedd. SA11 3AL
Pennaeth – Mrs Lois Loader
(CYMYSG) (YSTOD OEDRAN 3-11)
Ar gyfer 14eg Rhagfyr 2026
Mamolaeth Athro/Athrawes
Dymuna Corff Llywodraethol YGG Castell-nedd penodi athro/athrawes dros gyfnod mamolaeth (dau dymor).
Hoffwn benodi athro neu athrawes brwdfrydig, egnïol a chymwys i ymuno a’n tîm o staff ymrwymedig sy'n ymfalchïo yn ein dulliau dysgu ac addysgu. Rydym yn falch o’r gofal, y gefnogaeth a’r cymorth rydym yn cynnig i’n dysgwyr a'r berthynas arbennig sydd gennym gyda holl gymuned yr Ysgol.
Dyma gyfle gwych i athro neu athrawes gweithgar a brwdfrydig i ymuno ag ysgol arbennig iawn.
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Cyflog: Prif Raddfa Gyflog Athrawon
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn llythyr cais yw 12.00 canol dydd, Tachwedd 4ydd 2026.
Mae YGG Castell-nedd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.