Athro/Athrawes Dosbarth Blwyddyn 3 a 4

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

Athro/Athrawes Dosbarth Blwyddyn 3 a 4

Cyflogwr
YGGD Trebannws
Lleoliad
Alltwen, Swansea
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
5th Mai 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1545674
Cyfeirnod y swydd
POSN1020759
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1545674

(11 awr yr wythnos (2 ddiwrnod llawn) - Cyfnod Mamolaeth)

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod, i addysgu dosbarth o blant Blwyddyn 3 a 4 yn yr ysgol lwyddiannus hon. Gofynnwn i ymgeiswyr ein hysbysu am fedrau cwricwlaidd a diddordebau ar y ffurflen gais.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.

Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Cyflog: Prif Raddfa Gyflog Athrawon

Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mrs Rhian Evans, Pennaeth.

Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw DYDD MAWRTH 5ed o Fai am 12 o’r gloch.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGGD Trebannws yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.