Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn chwilio am athro/athrawes Cynradd talentog, brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swydd yma
Mae’r ysgol yn mynd trwy gyfnod hynod gyffrous yn ei hanes gyda gwaith adeiladu ysgol newydd fodern a chynhwysol wedi dechrau ar ein safle. O ganlyniad, rydym yn chwilio am athro/athrawes ysbrydoledig a brwdfrydig a fydd yn barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol i ymuno â’n tîm wrth inni baratoi ar gyfer y bennod newydd hon yn natblygiad yr ysgol.
Cytundeb blwyddyn yw’r swydd a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau o’r 1af o Fedi 2026.
Atodidadau
Datganiad Diogelu:
Mae YGG Rhosafan yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.