Oriau: 2x Llawn Amser 27.5 Awr (1x Dros Dro / 1x Mamolaeth)
01/09/26 – 31/08/2027
A wnewch chi nodi pa swydd yr hoffech wneud cais amdani.
Dyddiad Dechrau: 01/09/2026
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Tyle’r Ynn yn dymuno penodi Athro/Athrawes ardderchog ac ymrwymedig iawn i ymuno â’n tîm medrus o staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig ynghylch gweithio gyda phlant, yn gallu cefnogi strategaethau sy’n anelu at hyrwyddo canlyniadau dysgwyr, ac yn gyfathrebwr ac aelod tîm da. Rhaid i chi fod yn ofalgar, hyblyg a hawdd mynd atoch er mwyn helpu i ysgogi dysgwyr i lwyddo. Mae’n bwysig eich bod yn ddibynadwy, yn gallu cymryd cyfrifoldeb ac yn meddu ar y gallu i weithio’n gydweithredol.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i bob aelod o staff ac ymwelwyr gwirfoddol rannu’r ymrwymiad hwn. Mae ein hysgolion yr un mor ymroddedig i sicrhau diogelwch a diogelu pob plentyn a pherson ifanc ac yn cymryd camau i ddiogelu eu llesiant.
Bydd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon yn cael ei danategu gan asesu diogelu cadarn er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manylach (rhestr plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ceisiadau yn y Gymraeg yn unig.
Rhestr Fer: 13 Ebrill 2026
Arsylwad gwers: 20 Ebrill 2026
Cyfweliadau: 22 Ebrill 2026
Mae YGG Tyle'r Ynn yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.