Cyflog: Graddfa 3 (PCG 4-5) £26,016 i £26,427 (pro rata) (yn amodol ar addasiad amser tymor). Bydd y cyflog a nodir yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os bydd y gyflogaeth yn dechrau ar ddyddiad heblaw 1 Medi.
Oriau: 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Dros dro: Tan Mawrth 2027 yn y lle cyntaf gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cytundeb ar ôl y dyddiad yma.
Mae YGG Gwaun Cae Gurwen yn ysgol gynnes, groesawgar a chynhwysol yng nghalon cymuned fywiog y Waun. Fel ysgol cyfrwng Cymraeg, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu dysgwyr dwyieithog hyderus sy’n gwerthfawrogi eu hiaith, eu treftadaeth a’u diwylliant Cymreig. Mae disgyblion yn mwynhau profiadau dysgu difyr yn y dosbarth a thu hwnt iddo, gyda dysgu yn yr awyr agored yn helpu i feithrin chwilfrydedd, annibyniaeth a chariad at ddysgu. Wrth wraidd popeth a wnawn mae ymdeimlad cryf o gymuned, wedi’i adeiladu ar berthnasoedd cadarnhaol â theuluoedd ac ymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo’n werthfawr, yn cael ei gefnogi ac yn falch o berthyn.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r tîm fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 1:1. Fel Cynorthwyydd Addysgu 1:1, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol i gael mynediad at gyfleoedd dysgu, datblygu annibyniaeth a chymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i daith addysgol plentyn, gan ddod yn rhan o gymuned ysgol groesawgar a fydd yn eich cefnogi i ffynnu.
Am y Rôl, bydd deiliad y swydd yn:
• Darparu cymorth 1:1 i ddisgybl yn yr Adran Iau, wedi’i deilwra i ddiwallu ei anghenion dysgu, emosiynol a datblygiadol penodol
• Helpu i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol, cynhwysol a difyr
• Hyrwyddo annibyniaeth, lles a datblygiad cymdeithasol y disgybl
• Gweithio’n agos gyda staff addysgu, y Cydlynydd ADY (CADY), gweithwyr proffesiynol allanol a rhieni/gofalwyr
Bydd yr Ymgeisydd Llwyddiannus yn:
• Meddu ar brofiad o weithio gyda phlant ifanc
• Amyneddgar, gofalgar ac yn gallu meithrin perthnasoedd cryf a chadarnhaol
• Meddu ar ddealltwriaeth o gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
• Dangos hyblygrwydd, gallu i weithio fel rhan o dîm ac agwedd ragweithiol
• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant
• Meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol
Pam ymuno â ni:
• Patrwm gwaith yn ystod y tymor ysgol
• Mynediad at fuddion gweithwyr yr awdurdod lleol, gan gynnwys pensiwn hael, cymorth lles ac aelodaeth campfa am bris gostyngol
• Cymuned ysgol gynnes, groesawgar a chynhwysol
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Mae ein hysgolion yn rhannu’r ymrwymiad hwn i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manwl (plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener Hydref 30ain
Byddwn yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 2il o Dachwedd.
Mae’r swydd uchod ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu yn YGG Gwaun Cae Gurwen, ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
YGG Gwaun-Cae-Gurwen is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.