Pennaeth

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

Pennaeth

Cyflogwr
YGG Rhosafan
Lleoliad
Sandfields, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
L16-L22
Dyddiad cychwyn
1st January 2027
Yn dod i ben
22nd Ebrill 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1541507
Cyfeirnod y swydd
POSN1020440
Dyddiad cychwyn
1st January 2027
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1541507

Nifer ar y gofrestr: 388 (Oedran 3-11)

I ddechrau ar 01 Ionawr 2027.

Mae'r Corff Llywodraethu am benodi pennaeth brwdfrydig ac ysbrydolus a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â staff ymrwymedig a gofalgar, corff llywodraethu cefnogol, a phlant hapus, cryf eu cymhelliad ac eiddgar i ddysgu. Mae cyfnod cyffrous ar y gorwel i YGG Rhosafan wrth iddynt gael safle ysgol newydd sbon. Mae'r prosiect uchelgeisiol hwn yn rhan o Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi creu ysgolion sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn cynnwys cymunedau lleol, gan gynnwys disgyblion, yn y broses o ddylunio, cyflwyno a rheoli'r ysgol. Mae'r datblygiad yn un o dri prosiect a ddewiswyd ledled Cymru i wasanaethu fel cynllun penodol ar gyfer dylunio a chyflwyno ysgolion y dyfodol. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu:

- Dangos gweledigaeth glir wrth gynnal a datblygu ein hysgol mewn partneriaeth â'r staff, y llywodraethwyr, y rhieni a'r awdurdod lleol.

- Hybu datblygiad gwaith tîm deinamig a chyfrifoldeb ar y cyd ar draws ysgol fawr.

- Arwain, rheoli ac ysgogi staff a disgyblion.

- Codi safonau cyrhaeddiad a chyflwyniad disgyblion.

- Dangos sgiliau rhyngbersonol rhagorol.

- Deall pwysigrwydd yr ysgol yng nghanol ei chymuned.

- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.

- Sicrhau bod y gyllideb a phob adnodd yn yr ysgol yn cael eu rheoli'n effeithlon ac yn effeithiol.

- Dangos gyrfa lwyddiannus o ragoriaeth yn arweinyddiaeth, rheolaeth a gwelliant ysgol.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae ein hysgolion yr un mor ymrwymedig i sicrhau diogelwch yr holl blant a phobl ifanc a byddwn yn cymryd camau gweithredu i ddiogelu eu lles.

Bydd asesiad recriwtio mwy diogel a thrylwyr wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt yn bennaeth ar hyn o bryd feddu statws CPCP pan y'i penodir.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12yp 22/04/26

Taith ysgol: 15/04/26 am 2:30yp – plis cysylltwch a Meirwen Watts, Swyddog Cefnogi Addysg: m.watts@ npt.gov.uk

Rhestr Fer: 28/04/26

Y Diwrnod Cyfweld: 06/05/26

Mae angen y Gymraeg ar gyfer y swydd hon

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Rhosafan yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.