Swydd athro/athrawes dros gyfnod mamolaeth

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

Swydd athro/athrawes dros gyfnod mamolaeth

Cyflogwr
YGG Cwm Nedd
Lleoliad
Glynneath, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
18th Mai 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1546976
Cyfeirnod y swydd
POSN1020844
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1546976

Dymuna Corff Llywodraethol YGG Cwmnedd penodi athro neu athrawes dros dro ar gyfer cyfnod mamolaeth i gychwyn yn Medi 1af 2026.

Hoffwn benodi athro neu athrawes brwdfrydig, egnïol a chymwys i ymuno a’n tîm o staff ymrwymedig sy'n ymfalchïo yn ein dulliau dysgu ac addysgu. Rydym yn falch o’r gofal, y gefnogaeth a’r cymorth rydym yn cynnig i’n dysgwyr a'r berthynas arbennig sydd gennym gyda holl gymuned yr Ysgol.

Dyma gyfle gwych i athro neu athrawes gweithgar a brwdfrydig i ymuno ag ysgol arbennig iawn.

Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.

Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).


Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Cwm Nedd yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.