Swydd Athro/Athrawes Rhan Amser - Contract Blwyddyn

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

Swydd Athro/Athrawes Rhan Amser - Contract Blwyddyn

Cyflogwr
YGG Blaendulais
Lleoliad
Blaendulais, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
11th Mai 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Contract tymor penodedig
ID swydd
1544688
Cyfeirnod y swydd
POSN1020767
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Contract tymor penodedig
  • Hyd y contract: One year
  • ID swydd: 1544688

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gymraeg Blaendulais yn dymuno penodi Athro/Athrawes ardderchog ac ymrwymedig iawn i ymuno â’n tîm medrus o staff.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig ynghylch gweithio gyda phlant, yn gallu cefnogi strategaethau sy’n anelu at hyrwyddo canlyniadau dysgwyr, ac yn gyfathrebwr ac aelod tîm da. Mae’n bwysig eich bod yn ddibynadwy, yn gallu cymryd cyfrifoldeb ac yn meddu ar y gallu i weithio’n gydweithredol.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.

Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Gellir cael gwybodaeth bellach drwy gysylltu â Mrs Kathryn Penhale, y pennaeth.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 12:00 canol dydd, Dydd Llun, 11eg o Fai, 2026.

Mae angen y Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Blaendulais yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.