Swydd Cynorthwy-ydd Dros dro Lefel 3

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

NEW

Swydd Cynorthwy-ydd Dros dro Lefel 3

Cyflogwr
YGG Blaendulais
Lleoliad
Blaendulais, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
13th April 2026
Yn dod i ben
23rd Chwefror 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1530466
Cyfeirnod y swydd
POSN1020333/POSN1020334
Dyddiad cychwyn
13th April 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • ID swydd: 1530466

Swydd Cynorthwy-ydd Dros dro Lefel 3 27.5 awr + Goruwchwyliwr Cinio Dros Dro Lefel 2 2.5awr

Cyflog cynorthwyo lefel 3: Gradd 5 (SCP 10-17) - £17,783- £19,920 y flwyddyn 27.5 awr (pro rata)

Cyflog goruchwylio: Gradd 1 (SCP2) £1,650 y flwyddyn 2.5 awr

Hoffai'r Corff Llywodraethol benodi cynorthwy-ydd brwdfrydig, ymroddedig ac ysbrydolgar i ymuno â thim yr ysgol .

Rydym yn chwilio am unigolyn:

• sy'n ymarferydd ystafell ddosbarth hyderus gyda phrofiad o gynorthwyo ym Mlwyddyn 3-6

• sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar da yn y Gymraeg a'r Saesneg.

• sy'n gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm o staff, rhieni, llywodraethwyr a chymuned ehangach yr ysgol.

Dylid nodi diddordebau a chymwysterau penodol ar y ffurflen gais.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.

Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Gellir cael gwybodaeth bellach drwy gysylltu â Mrs Kathryn Penhale, y pennaeth.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 12:00 canol dydd, Dydd Llun, 23ain o Chwefror, 2026.

Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Gwener 6ed o Fawrth 2026.

Mae angen y Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Blaendulais yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.