SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Cyflogwr
YGG Tyle'r Ynn
Lleoliad
Castell Nedd, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
Yn dod i ben
13th Ebrill 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1541897
Cyfeirnod y swydd
POSN1019288/POSN1020654
Dyddiad cychwyn
To Be Confirmed
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 31/08/2027
  • ID swydd: 1541897

 SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Dros Dro am Flwyddyn

 30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

Cyf y Swydd:

I ddechrau: 01/09/2026 – 31/08/2027 Dros Dro 30 Awr yr wythnos ynghyd â dyletswydd amser cinio

Cyflog: Gradd 3 (SCP 3-5) -£17,370 - £17,921.31 - y flwyddyn ychwanegol £1675.4 am ddyletswydd amser cinio

Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Dyddiad Cau ar gyfer llythyr cais canol dydd 13 Ebrill 2026

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tyle’r Ynn for which the ability to speak Welsh is essential

Rhestr Fer: 13 Ebrill 2026

Cyfweliadau: 17 Ebrill 2026

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Tyle'r Ynn yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.