SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2 A SWYDD CYNORTHWYYDD AMSER CINIO (15 awr)

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

NEW

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2 A SWYDD CYNORTHWYYDD AMSER CINIO (15 awr)

Cyflogwr
YGG Tregeles
Lleoliad
Neath, Wales
Math o Gontract
Dros dro
Oriau
Rhan-amser, Adeg y tymor yn unig
Cyflog
Please see below
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
Yn dod i ben
1st Mehefin 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Dros dro
ID swydd
1553920
Cyfeirnod y swydd
POSN1020999/POSN1021000
Dyddiad cychwyn
1st September 2026
  • Math o Gontract:Dros dro
  • Hyd y contract: 31ain AWST 2027
  • ID swydd: 1553920

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU

LEFEL 2 A SWYDD CYNORTHWYYDD AMSER CINIO.

DROS DRO TAN 31ain AWST 2027

 12.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd addysgu) 2.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd amser cinio) – 5 bore yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

Cyflog: Gradd 3 (SCP 3-5) - £7,237-£7,471 Cyflog Gwirioneddol

Cyflog: Gradd 1 (SCP 3) - £1,675

Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.

Mae’r swydd yma am 12.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd addysgu) a 2.5 awr yr wythnos (cynorthwyydd amser cinio), 39 wythnos y flwyddyn.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Dyddiad Cau: 12.00 canol dydd, Dydd Llun, 01 Mehefin 2026

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tregeles for which the ability to speak Welsh is essential.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Tregeles yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.