SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2 – (Cynorthwyo 1:1)

Rydym yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau ym maes addysg

NEW

SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2 – (Cynorthwyo 1:1)

Cyflogwr
YGG Gwaun-Cae-Gurwen
Lleoliad
Ammanford, Neath Port Talbot
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
TBC
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
24th Mehefin 2026 12:00 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1558638
Cyfeirnod y swydd
POSN1021135
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1558638

I ddechrau: mor gynted a phosibl (yn dilyn asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr)

Cyflog: Gradd 3 (SCP 3-5) - £25,342-£26,146 y flwyddyn / 52 wythnos y flwyddyn Cyflog Gwirioneddol

Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i gefnogi plentyn sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Daw'r swydd hon gyda'r cyfrifoldeb o gyflawni dyletswydd oruchwylio amser cinio o 3.75 awr yr wythnos (45 munud y dydd o ddyletswydd), wedi'i thalu ar SCP3. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.

Mae’r swydd yma am 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn. 

The above post is for a Teaching Assistant at YGG Gwaun Cae Gurwen for which the ability to speak Welsh is essential

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae YGG Gwaun-Cae-Gurwen yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.