SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 3
Dros Dro
27.5 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)
Cyflog: Gradd 5 (SCP 10-17) - £18,173 - £20,357 y flwyddyn
(Yn amodol ar gyfrifiad cyflog tymor os yw’r dyddiad dechrau ar ôl Medi 1af)
Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.
Mae ysgol Gymraeg Pontardawe yn gymuned hapus a chyfeillgar gydag ethos gofalgar a chefnogol. Rydym yn chwilio am berson gyfrifol gyda’r angerdd i wella a chodi safonau disgyblion tra’n cynnig perthynas ofalgar mewn amgylchedd ysgogol a diogel sy’n annog pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial.
Mae’r swydd yma am 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn am flwyddyn yn unig yn y man cyntaf gyda’r posibilrwydd o ymestyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Pontardawe for which the ability to speak Welsh is essential
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mr Martin Evans, Pennaeth.
YGG Pontardawe is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.