30 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)
Cyflog: Gradd 5 (SCP 10-17) -£19,400 - £21,731 y flwyddyn ychwanegol £1675.4 am ddyletswydd amser cinio.
A wnewch chi nodi pa swydd yr hoffech wneud cais amdani
Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â’r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion. Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau trefnu a rheoli effeithiol, a'r gallu i ysbrydoli ac ymgysylltu â phlant o bob oedran ar draws yr Ysgol gynradd.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos cefnogol yr ysgol.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Dyddiad Cau ar gyfer llythyr cais canol dydd 13 Ebrill 2026
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Tyle’r Ynn for which the ability to speak Welsh is essential
Rhestr Fer: 13 Ebrill 2026
Cyfweliadau: 17 Ebrill 2026
YGG Tyle'r Ynn is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.