18.5 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)
bob prynhawn (12.5awr) a 2 bore yr wythnos (6awr)
Mae Llywodraethwyr YGG Trebannws yn dymuno penodi unigolyn cyfrifol a dibynadwy i swydd Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (HLTA). Bydd y swydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda grwpiau o blant ac i fod yn rhan o dîm o gynorthwywyr addysgu sy’n gweithio ar draws y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu CPA, ADY a datblygiad proffesiynol staff ar draws pob grŵp oedran.
Bydd y Llywodraethwyr yn chwilio am y sgiliau a’r rhinweddau personol canlynol:
• Brwdfrydedd a hunan-gymhelliant.
• Sgiliau llythrennedd a rhifedd rhagorol.
• Sgiliau rhyngbersonol da gydag oedolion a phlant.
• Rhaid bod yn gymwys i NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfwerth mewn disgyblaeth gofal plant berthnasol.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
Mae’r swydd yma am 18.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn am y flwyddyn academaidd.
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Trebannws for which the ability to speak Welsh is essential
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mrs Rhian Evans, Pennaeth.
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw
DYDD MAWRTH 5ed o Fai am 12 o’r gloch.
YGGD Trebannws is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion.