Rhan-amser/llawn-amser – 11 awr hyd at 31/12/2025, yna 27.5 awr hyd at 31/08/2026
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Tyle’r Ynn yn dymuno penodi Athro/Athrawes rhagorol ac ymroddedig iawn i ymuno â’n tîm medrus o staff.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig am weithio gyda phlant, yn gallu cefnogi strategaethau sydd â’r nod o gynyddu canlyniadau dysgwyr, yn gyfathrebwr da ac yn aelod o’r tîm. Rhaid i chi fod yn ofalgar, yn hyblyg er mwyn helpu i ysgogi dysgwyr i lwyddo. Mae’n bwysig eich bod yn ddibynadwy ac yn gallu cymryd cyfrifoldeb ac yn meddu ar y gallu i weithio’n gydweithredol.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu ac i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn. Mae ein hysgol ni yr un mor ymrwymedig i sicrhau diogelwch a gwarchodaeth plant a phobl ifanc ac yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Bydd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon yn cael ei gynnal gan asesiad recriwtio diogel trylwyr er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Estynedig (rhestr plant) gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Rhaid cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.
Mae YGG Tyle'r Ynn yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.