Athro ADY (Dros Dro) - Ysgol Gynradd Ogmore Vale
Disgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 31 Awst 2026
Ar gyfer mis Medi 2025
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Cwm Ogwr am benodi athro/athrawes ysgol gynradd uchel ei gymhelliant/uchel ei chymhelliant a chreadigol i sefydlu ein dosbarth sylfaen CARE Cyfnod Allweddol 2 newydd.
Bydd angen i ymgeiswyr fod yn angerddol am arfer cynradd o ansawdd uchel, bod yn ymarferwyr gwych yn yr ystafell ddosbarth a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o ddosbarthiadau lleoliad arbenigol, bydd gennych wybodaeth fanwl am gefnogi disgyblion ag amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn enwedig Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD).
Cysylltwch â'r ysgol i gael rhagor o fanylion am y swydd.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 16 Mehefin 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Mae Ogmore Vale Primary yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.