Swydd barhaol
Hyd at 40 awr bob wythnos
Gradd 9, pwynt 31 i 35 ar y golofn gyflog
£41,771 - £46,142 ynghyd â thaliad ‘croeso euraid’ ychwanegol un-tro o £2,500 y flwyddyn am y ddwy flynedd gyntaf.
Dyddiad cau: 7 Awst 2025 hanner nos
Dyddiad y Cyfweliad:
Tasgau Diwrnod 1 - I'w gadarnhau
Cyfweliad Ffurfiol Diwrnod 2 - I'w gadarnhau
Swydd barhaol
Mae Corff Llywodraethu a Phennaeth Ysgol Portfield am benodi Rheolwr Busnes i reoli busnes ac adnoddau’r ysgol wych hon yn strategol.
A ydych chi’n frwd dros sbarduno rhagoriaeth ym maes addysg a gwneud gwahaniaeth i fywydau myfyrwyr? Mae Ysgol Portfield yn chwilio am Reolwr Busnes Ysgol dynamig i ymuno â’n tîm arwain a chefnogi llwyddiant parhaus ein hysgol arbenigol.
A hoffech chi weithio mewn ysgol sydd ag adeilad newydd ar gyfer y cyfnod cynradd yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd, yn un o ardaloedd prydferthaf Cymru?
Fel Rheolwr Busnes yr ysgol, byddwch yn chwarae rhan ganolog yn rheolaeth strategol a gweithredol ein hysgol gan sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol. Gan gydweithio’n agos â’r pennaeth a’r corff llywodraethu, bydd rhai o’ch cyfrifoldebau yn cynnwys:
- Rheoli arian – Goruchwylio cyllideb yr ysgol, rhagweld y sefyllfa ariannol, cynllunio ariannol.
- Adnoddau dynol a recriwtio – Sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r holl bolisïau adnoddau dynol.
- Rheoli safle / iechyd a diogelwch – Goruchwylio tîm safle’r ysgol a gweithio’n agos gyda nhw i sicrhau ein bod yn cydymffurfio ym mhob maes.
- Gweinyddu – Goruchwylio’r tîm gweinyddol a gweithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod yr ysgol yn gweithredu’n esmwyth.
- Cynhyrchu incwm
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gweithio’n agos gyda Chyfeillion Portfield ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth ariannol y siop elusen yn Hwlffordd.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd rhagweithiol a threfnus sydd â chefndir amlwg o reoli busnes.
Bydd gan ddeiliad y swydd y rhinweddau canlynol:
- Cymwysterau perthnasol ym maes rheoli busnes, cyllid neu brofiad cyfatebol.
- Sgiliau arwain a chyfathrebu cryf.
- Y gallu i feithrin amgylchedd dysgu sy’n ddiogel, yn gynhwysol ac yn bleserus.
- Y gallu i reoli blaenoriaethau a chyflawni o fewn terfynau amser.
- Y gallu i fod yn chwaraewr tîm cryf a chydweithio ag eraill.
Pam ymuno â ni?
Yn Ysgol Portfield rydym yn gwerthfawrogi ein staff ac yn cynnig y canlynol:
Tîm go iawn sy’n cefnogi ei gilydd ac yn ymdrechu i gyflawni disgwyliadau uchel.
Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn lleoliad ysgol arbenigol
Mae Portfield Special yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.