Swydd: Dirprwy Bennaeth – Ysgol Bro Preseli
Dyddiad Cychwyn: 1af o Fedi 2026, Graddfa Cyflog Arweinyddiaeth L20-L24
Cytundeb Parhaol, Llawn Amser
Dyddiad Cau: 13eg Ebrill 2026
Ysgol Bro Preseli, Crymych
Mae Ysgol Bro Preseli yn falch o gyhoeddi cyfle cyffrous i ymuno â’n tîm arweinyddiaeth uchelgeisiol ac egnïol fel Dirprwy Bennaeth. Daw’r swydd hon ar adeg arbennig o bwysig yn hanes yr ysgol ar ôl i’n hadroddiad Estyn diweddar ddathlu ein gwaith fel cymuned ddysgu eithriadol o gryf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol bob oed lwyddiannus sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol am ei gweledigaeth, ei harweinyddiaeth strategol a’i chymuned gadarnhaol.
Ysgol Bro Preseli – Yr Ysgol a’i Chymuned
Mae Ysgol Bro Preseli yn ysgol bob oed Gymraeg lewyrchus sy’n gwasanaethu cymuned eang Crymych a’r dalgylch. Mae’n ysgol sydd wedi meithrin enw da dros flynyddoedd lawer fel canolfan addysg flaengar yng ngogledd Sir Benfro, ac erbyn heddiw mae ganddi dros 990 o ddisgyblion, gan gynnwys chweched dosbarth cryf sy’n denu myfyrwyr o ardal eang y Preseli.
Ar hyd ei hanes mae’r ysgol wedi adlewyrchu cryfder a gwydnwch ei chymuned, gan ddatblygu ethos sy’n seiliedig ar werthoedd Cymreig, cydweithio a balchder lleol. Yn 2022 daeth Ysgol Bro Preseli yn ffurfiol yn ysgol bob oed, gan uno darpariaeth gynradd ac uwchradd ac adeiladu ar sylfeini cadarn a arweiniodd at dîm arweinyddiaeth cydlynol ac uchelgeisiol. Mae Estyn yn pwysleisio mai “cymuned hapus, falch a chyfeillgar” yw’r ysgol, gyda gweledigaeth glir sy’n treiddio trwy bob agwedd o’i gwaith.
Yr Ardal – Y Preselau a Chymru Wledig
Saif yr ysgol yng nghalon y Preselau, ardal o harddwch naturiol eithriadol sy’n adnabyddus am ei threftadaeth ddiwylliannol a’i chymunedau Cymraeg cryf. Mae Crymych a’i bentrefi cyfagos yn gartref i bobl fywiog sy’n cynnal traddodiadau lleol, gan gynnwys chwaraeon, y celfyddydau a bywyd cymunedol cyfoethog. Mae’r Parc Cenedlaethol cyfagos ac ucheldiroedd y Preseli yn darparu cefndir naturiol arbennig i fywyd ysgol a’r cwricwlwm, gan gyfrannu at y teimlad o falchder lleol y mae Estyn wedi’i amlygu.
Dyfyniadau o Adroddiad Estyn (Rhagfyr 2025)
Mae’r adroddiad diweddar yn canmol Ysgol Bro Preseli fel:
“Cymuned hapus, falch a chyfeillgar lle mae staff a disgyblion yn mwynhau dysgu yng nghwmni ei gilydd”
“Gweledigaeth uchelgeisiol… i’w gweld a’i theimlo ym mhob agwedd o waith yr ysgol”
“Athrawon yn darparu gweithgareddau ymarferol buddiol sy’n meithrin medrau llafar, darllen ac ysgrifennu”
“Cwricwlwm cydlynol… wedi’i seilio’n gadarn ar y cysyniad o gynefin”
“Agweddau dysgu hynod gadarnhaol gan ddisgyblion ar draws pob cyfnod”
“Cydweithio effeithiol ac ymdeimlad cryf o rannu amcanion arweinwyr a staff”
“Arweinwyr ac athrawon yn darparu cwricwlwm sy’n pontio’r sector cynradd ac uwchradd yn effeithiol”
Mae’r dyfyniadau hyn yn adlewyrchu’r uchelgais, yr ansawdd a’r ymrwymiad sydd wrth wraidd pob agwedd o’n gwaith – a bydd y Dirprwy Bennaeth newydd yn chwarae rhan ganolog wrth barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn.
Cyfle Arweinyddiaeth mewn Ysgol Bob Oed
Er bod y cyfrifoldebau’n bennaf yn ymwneud â’r sector uwchradd, bydd y Dirprwy Bennaeth newydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau ysgol gyfan, gan gyfrannu at gyfeiriad strategol ysgol bob oed sydd â gweledigaeth glir ac uchelgeisiol. Bydd y rôl yn golygu cydweithio’n agos gyda’r Pennaeth a’r Dirprwy Bennaeth arall i ddatblygu ac ehangu gweledigaeth ‘Gwreiddiau a Gorwelion’ yr ysgol.
Prif Gyfrifoldebau’r Swydd
Arweinyddiaeth Weithredol
Amserlen, Cwricwlwm a Staffio Uwchradd
Cydlynydd Cyrsiau BTEC Rheolwr Ansawdd (QN)
Cwricwlwm CA4 / CA5
Cyrsiau mewn Partneriaeth
Cydlynydd Data, Tracio a Thargedau
Cydlynydd Asesu ac Adrodd
Cymedroli a Safoni
Gorolwg Strategol
Arwain ar Ddata, Tracio a Thargedau
Arwain Cyfarfodydd Arweinwyr Pwnc Penodol
Cwricwlwm Galwedigaethol
Arholiadau Allanol
Arwain Pobl
Cyfrifoldeb fel Arweinydd Llinell ar adrannau penodol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
- Yn arweinydd ysbrydoledig, galluog ac egnïol.
- Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol ac ymrwymiad i gynllunio strategol.
- Yn darparu arweinyddiaeth gadarn sy’n meithrin diwylliant o uchelgais ac ansawdd.
- Yn rhannu gwerthoedd craidd yr ysgol: Cymreictod, Cymuned, Caredigrwydd a Chyfrifoldeb.
Beth rydym yn ei gynnig?
- Cyfle i weithio mewn ysgol a gydnabyddir yn genedlaethol am ei harweinyddiaeth strategol, ei chymuned gadarnhaol a’i chwricwlwm rhagorol.
- Amgylchedd gweithio cynnes, cydweithredol a chreadigol.
- Cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus o’r safon uchaf.
- Pecyn Adleoli (‘Relocation Package’) deniadol o £7000.00 i gefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus wrth symud i’r ardal.
Safeguarding and protecting children and adults at risk is a high priority for Pembrokeshire County Council. We aim to support vulnerable children and adults at risk to ensure they are as safe as they can possibly be. We are committed to ensuring their safety and will take action to safeguard their well-being. The Council’s Corporate Safeguarding Policy provides a framework for every member of staff and Service within the Council, setting out responsibilities in relation to safeguarding and protecting children and adults at risk as well as the methods by which the Council will be assured that it is fulfilling its duties.
This policy applies to all Council employees and workforce, councillors, volunteers and also service providers that are commissioned by the Council. Safeguarding is everyone's business whether they work for, or on behalf of the Council.
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles.Mae Polisi Corfforaethol Diogelu'r Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau lle caiff y Cyngor ei sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn gymwys i holl weithwyr y Cyngor a'r gweithlu, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor.Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.