Athro dosbarth llawn amser yn Ysgol Gymunedol Neyland – cyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth
Mae’r corff llywodraethu yn dymuno recriwtio ymarferydd ystafell ddosbarth deinamig ac ymroddedig i ymuno â’n tîm llwyddiannus yn Ysgol Gymunedol Neyland o 3 Tachwedd 2025 am hyd at flwyddyn, i gyflenwi swydd athrawes bresennol a fydd ar absenoldeb mamolaeth tan 31 Awst 2026.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a fydd yn gwneud y canlynol:
Cefnogi amcanion ac ethos ein hysgol
Yn hynod drefnus a pharatoi’n drylwyr
Dod â brwdfrydedd i’w hystafell ddosbarth a chyffroi ac ennyn diddordeb pob disgybl yn eu dysgu
Dangos arferion addysgeg cryf ac effeithiol
Meddu ar ddisgwyliadau uchel o bob plentyn a phenderfyniad i gyflawni safonau uchel
Yn barod i gyflwyno syniadau newydd ac i gefnogi cydweithwyr, gan wella eu hymarfer eu hunain ac ymarfer eraill.
Gallwn gynnig cymuned ysgol gynnes a chefnogol ag ethos cryf yn sail iddi, cymorth tîm o staff a llywodraethwyr sy’n weithgar ac yn ymrwymedig, a phlant hapus sy’n awyddus i ddysgu. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o’r ymarfer yn ein hysgol ac i lunio’r ymarfer hwnnw.
Nododd ein harolygiad llwyddiannus diweddar gan Estyn (Mawrth 2023) lawer o gryfderau;
Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn leoliad lle mae disgyblion, staff a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cefnogi. Cryfder nodedig yn yr ysgol yw’r ethos gofalgar cryf a’r ymddiriedaeth a’r parch rhwng disgyblion a staff. Mae arweinwyr yr ysgol wedi datblygu diwylliant cadarnhaol o waith tîm ymhlith y staff a’r gymuned leol. Mae’r ysgol yn darparu ystod gyfoethog, eang a chytbwys o brofiadau dysgu a darpariaeth ychwanegol.
Yn ein hysgol, rydym yn siarad am ‘fynd yr ail filltir’ ac yn dangos hyn yn weithredol i’n plant, ein teuluoedd a’n cymuned. Mae’n allweddol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o hyn ac yn arddangos sgiliau i ddod yn rhan weithredol o’n hethos cadarnhaol a gofalgar wrth ddarparu profiadau dysgu cyfoethog i’n disgyblion.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y rôl, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â’r Pennaeth.
Edrychwch hefyd ar wefan ein hysgol a’n tudalen Facebook i ddysgu mwy am ein hysgol effeithiol.
Dyddiad cau: Dydd Iau, 11 Medi
Llunio’r rhestr fer: Dydd Gwener, 12 Medi
Cyfweliadau: Dydd Llun, 22 Medi
Mae Neyland CPJM yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.