Athro/Athrawes - Ysgol Portfield

Cyflogwr
Portfield School
Lleoliad
Haverfordwest, Pembrokeshire
Math o Gontract
Parhaol
Oriau
Amser Llawn
Cyflog
£33,731 - £51,942 + £2,838.00
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
Yn dod i ben
9th Ebrill 2026 11:59 PM
Math o Gontract
Parhaol
ID swydd
1538519
Cyfeirnod y swydd
REQAA7076
Dyddiad cychwyn
As Soon As Possible
  • Math o Gontract:Parhaol
  • ID swydd: 1538519

Mae Ysgol Portfield am benodi athrawon ymroddedig i ymuno â’n tîm o fis Medi 2026.

Mae Ysgol Portfield ar gyfer disgyblion sydd ag amrediad o anawsterau dysgu difrifol a chymhleth, anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, ac amhariad ar y synhwyrau.

Mae gofyn i bob aelod o’r staff yn Ysgol Portfield addysgu gwersi gwahaniaethol er mwyn adlewyrchu anghenion amrywiol y plant yn eu hystafell ddosbarth.

Mae’n hanfodol bod gan yr athrawon wybodaeth am Gamau Cynnydd, y Blynyddoedd Cynnar a’r Cwricwlwm i Gymru.

Dymunir bod gan yr athrawon wybodaeth am y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a rhaglen trawsnewid y system anghenion dysgu ychwanegol.

Anogir pob ymgeisydd i ymweld â’r ysgol, a bydd disgwyl iddynt addysgu grŵp o ddisgyblion fel rhan o’r drefn gyfweld.  Bydd y manylion yn cael eu darparu i’r ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer.

Mae croeso i athrawon newydd gymhwyso ymgeisio am y swydd.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol.

Mae staff addysgu yn Ysgol Portfield yn cael lwfans AAA 1 ychwanegol o £2,838.00

Cysylltwch ag Ysgol Portfield i allu archebu slot i weld yr ysgol naill ai ddydd Llun, 23 Mawrth 2026 yn y bore neu ddydd Mawrth 24 Mawrth ar ôl 4pm.

Atodidadau

Datganiad Diogelu:

Mae Portfield Special yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd.
Part of Pembrokeshire Local Authority

Pembrokeshire Local Authority